Skip to main content

FEEDBACK We're redesigning our website - your feedback will help us.

Cynlluniau

Cyflawni Gweithredol

Ydych yn angerddol dros wneud gwahaniaeth, helpu dinasyddion, a newid bywydau? Gallai'r rhaglen Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol fod y cyfle perffaith i chi!

Hyd

3.5 blynedd

Cyflog

£31,186

Lleoliad

Gogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr, a Chymru ym Mlwyddyn 1.

Manylion

Mae rhaglen y Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol yn gynllun newydd sbon i raddedigion gan y Gwasanaeth Sifil a fydd yn dechrau yn 2024 sy’n cynnig profiad heb ei debyg o wneud gwahaniaeth go iawn drwy arwain pobl eraill i droi polisïau, strategaethau a chynlluniau’r llywodraeth yn weithredoedd. Yn y gwaith y byddwch yn ei wneud, byddwch yn trawsnewid bywydau pobl er gwell.


Fel Aelod o'r Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol, cewch eich cefnogi'n llawn i:

  • Ddatblygu i fod yn arweinwyr hyderus, sy'n ysbrydoli ac yn grymuso; gan ddysgu sut i reoli pobl a thimau drwy ddysgu yn y gwaith a chymwysterau achrededig.
  • Arwain y gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl bob dydd.
  • Profi effaith gadarnhaol a gwirioneddol eich gwaith ar ddinasyddion y DU yma a thramor.

Bydd y rhaglen yn cynnig lleoliadau ar draws y DU

  • Bydd carfan gyntaf y Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol, sy'n rhedeg o 2024 tan 2027, yn gwneud eu lleoliadau blwyddyn gyntaf rhwng Medi 2024 a Medi 2025 yng Ngogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr, neu Gymru yn unig.
  • Gall unrhyw un o unrhyw le yn y DU sy'n gymwys wneud cais, nid oes rhaid i ymgeiswyr fyw yng Ngogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr na Chymru ar hyn o bryd. Ond, os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi symud i Ogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr neu Gymru am y flwyddyn gyntaf.
  • O flwyddyn dau ymlaen, bydd aelodau'r Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol yn gallu dewis gweithio mewn unrhyw leoliad rhanbarthol yn y DU (ac eithrio canol Llundain); sy'n rhoi'r dewis i unigolion gynllunio eu dyfodol mewn un rhanbarth, os hoffent wneud hynny.

Mae'r Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol yn gynllun tair blynedd a hanner (3 blynedd ar y rhaglen, hyd at 6 mis ar gyfer gadael y cynllun).


Bydd Aelodau'r Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol yn gwneud pedwar lleoliad ar draws amrywiaeth o adrannau o'r llywodraeth. Yn yr ail flwyddyn, bydd Aelodau'r Ffrwd Gyflym yn gweithio ar secondiad i elusen, neu sefydliad cyhoeddus ehangach yn ogystal â lleoliad Trawsnewid Polisi neu Drawsnewid Digidol.


Gofynion

  • Bydd angen radd brifysgol arnoch - 2:2 ar y lleiaf

    Neu

  • Bydd angen i chi fod yn was sifil ar hyn o bryd

Beth y byddwch yn ei brofi?

Civil Service Fast Stream

Byddwch yn arwain ac yn rheoli timau o weision sifil ymroddedig i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd.

Byddwch yn ennill profiad a sgiliau drwy weithio mewn gwahanol rolau Cyflawni Gweithredol heriol. gyda’r cyfle i weithio mewn gwahanol amgylcheddau/adrannau’r llywodraeth fel Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EF, a’r Swyddfa Gartref.

Cefnogi eich dysgu

Bydd pob Aelod o'r Ffrwd Gyflym yn cael yr un hyfforddiant craidd, yn ogystal â'r hyfforddiant hyn, byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol sy'n unigryw i'r Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymhwyster Lefel 6 mewn Arwain a Rheoli gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y Ffrwd Gyflym Cyflawni Gweithredol gyda gweithgareddau allgyrsiol fel digwyddiadau, mentora, a chyfleoedd cysgodi ar draws blynyddoedd 1 a 2.
  • Cwrs 'Polisi i Gyflawni'
  • Cwrs Arweinyddiaeth Weithredol ychwanegol a ddarperir gan brifysgol flaenllaw ym mlwyddyn 3.

Cyflawni Gweithredol - STEM

Mae’r proffesiwn Cyflawni Gweithredol yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir academaidd a phob profiad gyrfa; creadigrwydd a meddwl yn wahanol yw sylfeini ein cryfder ac arbenigedd.


Wrth i ni adeiladu Gwasanaeth Sifil arloesol ac uchelgeisiol ag sgiliau uwch sy’n barod am y dyfodol, rydym yn awyddus i ddenu pobl sydd â graddau sy’n adlewyrchu’r cefndiroedd gwahanol hynny - gan gynnwys y rhai hynny sydd â graddau yn y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).


I gefnogi hyn, byddwn yn monitro ceisiadau gan raddedigion STEM ar gyfer y cynllun hwn. Ar ein porth ymgeisio, gofynnir i chi gadarnhau eich hoff ddewisiadau o ran cynlluniau. Byddwch yn gweld opsiwn ‘Cyflawni Gweithredol’ ac opsiwn ‘Cyflawni Gweithredol STEM’ - os oes gennych radd gyntaf neu radd ôl-raddedig mewn maes STEM, dewiswch yr ail opsiwn hwn.


Bydd pob ymgeisydd yn mynd drwy’r un broses ymgeisio a recriwtio, a byddant yn profi’r un daith ar y Ffrwd Gyflym.


I gael diffiniad o’r graddau rydym yn eu hystyried i fod yn raddau STEM, gweler adran Cyn i Chi Ymgeisio ein Cwestiynau Cyffredin [faststream.gov.uk].

Y buddion y byddwch yn eu mwynhau?

Civil Service Fast Stream

Dyma rai o'r buddion y byddwch yn eu mwynhau:

  • Cael profiad mewn rheoli llinell sy’n amrywio o reoli timau gweithredol llai i rolau rheoli gweithredol mwy.
  • Profiad gweithredol uniongyrchol ar y rheng flaen
  • Cwblhau cymhwyster lefel 6 wedi'i achredu gan CMI, gyda chyfle i wneud cais am Statws Rheolwr Siartredig ar ôl ei gwblhau.
  • Cwblhau cwrs arweinyddiaeth weithredol
  • Profiad mewn Trawsnewid Polisi neu Drawsnewid Digidol y i'w ddefnyddio mewn Cyflawni Gweithredol
  • Y cyfle i ehangu eich profiad a gweithio gyda phroffesiynau eraill.
  • Bod yn rhan o'r gymuned broffesiynol fwyaf ar draws y llywodraeth.

Dysgu a Datblygu ar y Cynllun Cyflawni Gweithredol

Ochr yn ochr â’r cynnig dysgu sy’n unigryw i’r cynllun, byddwch yn cwblhau hyfforddiant cyffredinol sy’n darparu sgiliau sylfaenol craidd a sgiliau arwain a rheoli.

Proses ymgeisio

Step 1 - Online Assessments

Asesiadau ar-lein

Mae’r asesiadau ar-lein yn cynnwys Holiaduron Arddull Gweithio, Holiadur Crebwyll Sefyllfaol amlgyfrwng, Prawf Rhifiadol a Senarios sy’n Seiliedig ar Waith.

Step 2 - Assessment centre

Canolfan asesu

Os ydych yn llwyddo yn yr asesiadau ar-lein, byddwch yn cael eich gwahodd i ganolfan asesu hanner diwrnod. Cynhelir y ganolfan asesu’n rhithwir ac ar-lein. Mae Canolfan Asesu’r Ffrwd Gyflym (FSAC) yn adlewyrchu rhai o elfennau allweddol rôl y Ffrwd Gyflym a bydd yn cynnwys senario arweinyddiaeth, senario tîm a senario ysgrifenedig. Bydd gwybodaeth yn cael ei chyflwyno drwy ap y byddwch yn gallu cael mynediad iddo o bell.

Step 3 - Final selection

Bwrdd Dethol Terfynol

Os ydych yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn proses dethol derfynol.

Bydd y bwrdd dethol terfynol, a fydd yn cael ei arwain gan y Proffesiwn Cyflawni Gweithredol, yn asesu eich galluoedd cyffredinol a’ch cymhelliad i fod yn rhan o’r proffesiwn. Anfonir canllawiau manwl atoch cyn yr asesiad i esbonio beth y bydd yn ei gynnwys.

You may also be interested in